CROESO I WEFAN ADERYN PRIN
Y BAND
Nial ar y ffidil neu'r fandolin, gydag Annie ar y piano acordion sy'n arwain y band gyda chefnogaeth rhythm fedrus Pete ar y gitar/lleisydd a Jerome ar gitar fas 5 tant.
GALLWN DROI ACHLUSUR ARBENIG - PRIODAS NEU BARTi PEN-BLWYDD - YN NOSON I'W CHOFIO. Ac, yn wahanol i ddisgo, fe welwch bod ceildh yn apelio at bob oedran - bydd y llawr yn aml yn llawn dawnswyr o 'r plantos i'r neiniau!
PEIDIWCH A PHOENI OS NAD YW'R DDAWNS YN GYFARWYD I CHI - 'rydym yn cydweithio a'r galwyr gorau a'r mwyf profiadol yn yr ardal. Bydd ein galwr yn egluro ac yn eich tywys drwy bob dawns gam wrth gam, ac yna, os bydd angen, bydd yn galw fel bo'r ddawns yn mynd yn ei blaen. Gyda'n dewis helaeth sy'n amrywio o wols fawreddog i wallgofrwydd "Blingo'r Gath (Strip the Willow)", ceir digon o hwyl hyd yn oed os na fu i chi ddawnsio step erioed o'r blaen.
MAE GENNYM EIN SYSTEM UWCHSEINYDD EIN HUNAIN- ynghyd a galwr- a byddwn, wrth gwrs, yn hollol hyblyg i'ch gofynion ar y noson. Ac, i ateb cwestiwn sy'n codi'n aml, mae rhan helaeth o'n reportoire yn Gymraeg a byddwn yn gweithio gyda sawl galwr sydd wrth eu boddau yn galw'r holl Dwmpath yn y Gymraeg... gallwn gyflwyno'r dawnsfeydd drwy gyfrwng y naill iaith neu'r llall.
Os na threfnoch Geilidh, Twmpath Dawns neu Ddawns 'Sgubor o'r blaen- neu os hoffech i'ch un nesaf fod yn fwy llwyddiannus-edrychwch ar ein tudalen FAQ.
Daw ein cerddoriaeth yn bennaf o'r dewis eang sydd ar gael yn Ynysoedd Prydain - ond byddwn yn gwrando ar unrhyw diwn ac yn barod i wneud eithriad ar adegau. Hefyd, wrth gwrs, ceir caneuon traddodiadol a chyfoes gan Pete. Ar adegau cawn ein llogi ar gyfer gwrando yn unig ac mae gennym lawer o gerddoriaeth a chaneuon tawelach er mwyn cyflwyno noson o ddifyrrwch yn y dull hwnnw hefyd., os dymunwch hynny.
YN WREIDDIOL O GAERNARFON BUM YN PERFFORMIO RHEOLAIDD ERS 12 MLYNEDD BELLACH
Os am ein bwcio neu i weld os byddwn ar gael ffoniwch Jerome neu Annie ar
01286 673696
neu ar 07811 836584
neu cysylltu a ni yma
a chofiwch edrych ar ein tudalen flog am y newyddion diweddara.WEDI DDIWEDDARU 18fed IONAWR
GWEFAN DIWEDDARU 25fed CHWEFROR
| web hit counter |
